Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wrthi’n craffu ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) cyntaf. Fel rhan o'i waith craffu yng Nghyfnod 1, cynhaliodd y Pwyllgor arolwg a oedd yn canolbwyntio ar Ran 3 o'r Bil -  Hybu mynediad at Lywodraeth Leol.

Hyrwyddo’r arolwg a’i ddadansoddi

Nod yr arolwg oedd clywed gan ystod mor amrywiol o ddinasyddion Cymru â phosibl. Hyrwyddwyd yr arolwg yn helaeth drwy amrywiaeth o gyfryngau: -

·         Drwy rwydweithiau rhanddeiliaid allweddol;

·         Ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol; Roedd hyn yn cynnwys hysbysebion â ffocws a oedd yn ein galluogi ni i dargedu cynulleidfaoedd mewn ardaloedd lle mae’r gyfradd ymateb yn dueddol o fod yn llai.

·         Anogwyd ymwelwyr â’r Senedd a’r Pierhead i lenwi’r arolwg;

·         Pobl a oedd yn cymryd rhan yn ymweliadau Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad a sesiynau allgymorth. Drwy wneud hyn, sicrhawyd nad sampl hunan-ddewisol pur oedd yr ymatebion a gafwyd.

Er mwyn llunio’r crynodeb hwn, cynhaliwyd dadansoddiad o’r gyfres ddata gyflawn; gellir priodoli’r holl ddata i ymatebion unigol, a gellir dadansoddi ymhellach ar gais. Ymdrinnir â phob cwestiwn yn yr arolwg yn ei dro.

Caiff y canlyniadau eu cyfrifo yn ôl nifer y bobl a ymatebodd i'r cwestiwn penodol, nid nifer y bobl a ymatebodd i'r arolwg yn gyffredinol. Cafwyd cyfanswm o 511 o ymatebion.

1. A wnaethoch bleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol diwethaf yng Nghymru ym mis Mai 2017?

O’r rhai a atebodd y cwestiwn hwn, pleidleisiodd 82.5 y cant ohonynt yn yr etholiadau llywodraeth leol diwethaf, atebodd 16.3 y cant ‘naddo’, a dywedodd 1.2 y cant nad oeddent yn gwybod.

2. Wrth feddwl am sut mae llywodraeth leol yn gweithredu, i ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r datganiad canlynol:

“Rwy’n deall sut mae fy nghyngor yn gwneud penderfyniadau ac yn craffu arnynt.”

Atebodd 42.7 y cant eu bod yn cytuno neu’n cytuno'n gryf â'r datganiad hwn; roedd 34.8 y cant yn anghytuno neu’n anghytuno'n gryf, a dywedodd 22.6 y cant nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno â'r datganiad hwn.

3. Wrth feddwl am eich gallu i ddylanwadu ar y penderfyniadau a wneir gan eich cyngor, i ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r datganiad canlynol:

“Rwy’n teimlo fy mod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau a wneir gan fy nghyngor”

Atebodd 70.1 y cant eu bod yn cytuno neu’n cytuno'n gryf â'r datganiad hwn; roedd 14.2 y cant yn anghytuno neu’n anghytuno'n gryf, a dywedodd 15.8 y cant nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno â'r datganiad hwn.

4. A ydych erioed wedi rhoi eich barn i'r cyngor/wedi cyfrannu at ymgynghoriad cyngor?

Atebodd 60.4 y cant eu bod wedi rhannu eu barn â’r cyngor a/neu wedi cyfrannu at ymgynghoriad cyngor, a nododd 36.8 y cant nad oeddent erioed wedi gwneud hynny; gyda 2.8 y cant yn nodi nad oeddent yn gwybod a oeddent wedi gwneud hynny. 

5. Beth oedd y maes y gwnaethoch roi eich barn arno gyda'r cyngor/pwnc ymgynghoriad(au) y cyngor y gwnaethoch chi gyfrannu ato?  (Cafodd ymatebwyr ddewis mwy nag un opsiwn)

Rheoli gwastraff (43.5 y cant) a phriffyrdd a thrafnidiaeth (42.8 y cant) yw’r pynciau a gafodd y nifer fwyaf o ymatebion i’r cwestiwn hwn. Yn dilyn y rhain y daeth addysg (33.6 y cant), gwasanaethau hamdden a diwylliannol (31.9 y cant), tai (23.3 y cant) ac yna gwasanaethau cymdeithasol (23 y cant). O ran y 28.1 y cant a ddewisodd ‘Arall (rhowch fanylion)’, dyma isod rai o’r atebion mwyaf cyffredin (noder bod y rhain yn sampl o’r holl ymatebion a gafwyd. Mae’r holl ymatebion ar gael ar gais.):-

-   Cynllunio.

-   Cyllideb.

-   Yr amgylchedd a newid hinsawdd.

6. Sut gwnaethoch chi roi eich barn i'ch cyngor/cyfrannu at ymgynghoriad(au) y cyngor? (Cafodd ymatebwyr ddewis mwy nag un opsiwn)

Yr opsiynau mwyaf poblogaidd o’r rhai a ddewiswyd oedd 'Ar-lein - er enghraifft, drwy e-bost neu fwrdd trafod ar-lein' (47.6 y cant), 'Arolwg neu holiadur' (41.4 y cant) a 'Cyfarfod - er enghraifft, cyfarfod cyhoeddus neu gyfarfod â chynghorydd'(40.4 y cant).

Dewisodd 30.8 y cant o’r ymatebwyr 'Yn ysgrifenedig - er enghraifft, llythyr', gydag 16.1 y cant yn dewis 'Deiseb', a 15.8 y cant yn dewis 'Ar y ffôn' a 9.9 y cant yn dewis 'Grŵp ffocws neu drafodaeth bord gron'.

Dewisodd 0.3 y cantWn i ddim’ a nododd 6.5 y cantArall (rhowch fanylion)’. O'r rhai a ddewisodd ‘Arall’, cafwyd yr ymatebion a ganlyn: -

-   Apiau (ap Fixmystreet, ap yr awdurdod lleol).

-   Drwy'r wasg leol.

-   Drwy broses ymgynghori cyhoeddus y Cyngor.

7. Beth fyddai'n eich annog i roi eich barn i'ch cyngor/cyfrannu at ymgynghoriad y cyngor? (Cafodd ymatebwyr ddewis mwy nag un opsiwn) 

'Canllawiau ar sut y gallaf roi fy marn' (60.9 y cant) a 'Rhagor o wybodaeth am sut mae fy nghyngor yn gwneud penderfyniadau' (57.7 y cant) oedd yr atebion mwyaf cyffredin i'r cwestiwn hwn.

Dewisodd 52.4 y cant o’r ymatebwyr 'Sicrwydd/tystiolaeth y bydd fy marn yn cael ei hystyried', gyda 45.5 y cant yn dewis 'Y gallu i ddewis sut rydw i'n rhoi fy marn (er enghraifft, yn ysgrifenedig, grŵp ffocws, deiseb, ac ati), a 43.9 y cant yn dewis 'Pe bawn i'n teimlo'n arbennig o gryf am y pwnc'. Dewisodd 39.7 y cant yr ymateb 'Rhagor o fynediad i gyfarfodydd y cyngor i ddeall sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud.'

Dewisodd 3.2 y cantyr ymateb 'Dim byd - does gen i ddim diddordeb mewn rhoi fy marn' a nododd 2.7 y cant 'Wn i ddim'. O ran y 2.7 y cant a ddewisodd 'Arall (rhowch fanylion)':

“More marketing when it’s possible to contribute to decision-making. Better explanation on how to contact my local member.”

“Your Wales is a great way to give feedback.”

8. Yn eich barn chi, beth yw'r rhwystrau i chi ymgysylltu â'ch cyngor? (Cafodd ymatebwyr ddewis mwy nag un opsiwn)

'Nid wyf yn credu y bydd fy marn yn gwneud unrhyw wahaniaeth' (56.6 y cant) a 'Diffyg gwybodaeth am sut mae'r cyngor yn gweithredu ac yn gwneud penderfyniadau' (53.1 y cant) oedd yr atebion mwyaf cyffredin i'r cwestiwn hwn.

Dewisodd 31 y cant yr ymateb 'Rwy'n ansicr sut y gallaf roi fy marn i'r cyngor ', a dewisodd 15.9 y cant 'Nid wyf yn gallu gweld cyfarfodydd y cyngor'.

Atebodd 2.6 y cant 'Wn i ddim', gydag 8.4 y cant yn nodi nad oeddent yn credu bod rhwystrau iddynt ymgysylltu â'u cyngor. I’r rhai a ddewisodd ‘Arall (rhowch fanylion)’, (13.8 y cant), dyma isod rhai o’r atebion mwyaf cyffredin a roddwyd. Mae pob ymateb ar gael ar gais: -

Cyfathrebu

“The council will listen carefully then do whatever it likes.”

“Council members don’t listen”

“Just feel they don’t listen, they ignore emails or reply about something completely different.”

Llythrennedd digidol

“As a former Council employee I have knowledge of how the local authority functions and the technology to be able to go looking for consultations/surveys. Others may not be part of the same networks. While everything is advertised online, if not digitally literate or proactive then you wouldn’t see these opportunities to get involved.”

Ymgysylltu

“Lack of evening and weekend engagement – so constantly not geared to those who are working, or only one event is held on one evening – very limiting, to reflect the number of people who are working – more events/engagement/consultation needs to be held out of the working week”

“I don’t think they make it easy to engage – technical documents, vague proposals, lack of action from councillors to really engage etc.”

9. Beth fyddai'ch hoff ddull o roi eich barn i'r cyngor?

'Ar-lein - er enghraifft, trwy e-bost neu fwrdd trafod ar-lein' (43.3 y cant) oedd yr ateb mwyaf cyffredin i'r cwestiwn hwn.

Dewisodd 20.8 y cant yr ymateb 'Arolwg neu holiadur ', gyda 'Cyfarfod - er enghraifft, cyfarfod cyhoeddus neu gyfarfod â chynghorydd ' (10.7 y cant) a 'Grŵp ffocws neu drafodaeth bord gron' (10.5 y cant)fel yr atebion mwyaf cyffredin nesaf.

Yr atebion a ddewiswyd leiaf aml oedd 'Yn ysgrifenedig - er enghraifft, drwy lythyr' (5.1 y cant), 'Deiseb' (2.1 y cant) a 'Ar y ffôn ' (1.9 y cant). Dewisodd 1.3 y cant yr ymateb 'Wn i ddim'.

O’r 4.3 y cant o bobl a ddewisodd 'Arall (rhowch fanylion)', dyma isod gipolwg ar yr atebion a roddwyd.  

“Submission of views at Hwbs, community centres, churches, mosques, youth clubs, schools. This would need a good communication system regularly updated with feedback.”

“Facebook page so it’s open for all to see and comment on or add to”

“There needs to be a complete review of planning regulations and procedures. Presently they seem designed to actively prevent any normal citizen and even councillors from having any influence over far reaching local decisions.”

Demograffeg ymatebwyr yr arolwg

Lleoliad

Nododd 49.1 y cant o ymatebwyr yr arolwg eu bod o Dde Cymru, nododd 19.6 y cant eu bod o Ganolbarth a Gorllewin Cymru a nododd 31.1 y cant eu bod o Ogledd Cymru.

Oedran

Roedd 12.2 y cant o’r ymatebwyr yn 25 oed neu’n iau, roedd 59.3 y cant rhwng 26 a 64 oed, ac roedd 27.7 y cant yn 65 oed neu’n hŷn. Dewisodd 0.9 y cant yr ymateb 'Mae'n well gen i beidio â dweud'.

Rhyw

Dewisodd 53.4 y cant o’r ymatebwyr yr opsiwn ‘Benyw’, a dewisodd 42.7 y cant yr opsiwn ‘Gwryw’. Nododd 3.5 y cant ei bod yn well ganddynt beidio â dweud, a nododd 0.4 y cant eu term eu hunain.

Pobl drawsryweddol

Nododd 0.9 y cant o’r ymatebwyr eu bod yn ystyried eu hunain yn drawsryweddol, a nododd 4 y cant ei bod yn well ganddynt beidio â dweud. Nid oedd y 95.1 y cant sy’n weddill yn ystyried eu hunain yn bobl drawsryweddol.

Rhywioldeb

Nododd 74.2 y cant o’r ymatebwyr eu bod yn heterorywiol.

Dewisodd 4.4 y cant yr opsiwn 'Deurywiol' a dewisodd 3 y cant yr opsiwn 'Hoyw/lesbiaidd (neu “Cyfunrywiol”).

Roedd yn well gan 14.8 y cant beidio â dweud, a dewisodd 3.7 y cant o'r ymatebwyr eu term eu hunain.

Ethnigrwydd

Dewisodd 90.8 y cant o’r ymatebwyr y categori 'Gwyn' i ddisgrifio eu hunain.

Nododd 1.3 y cant o’r ymatebwyr 'Grwpiau ethnig cymysg/aml-ethnigrwydd', gyda 0.4 y cant yn disgrifio'u hunain yn 'Asiaidd' a 0.2 y cant yn dewis 'Du/Affricanaidd/Caribïaidd'. Dewisodd 0.9 y cant yr opsiwn 'Grŵp ethnig arall', gyda 6.4 y cant yn dewis peidio â dweud. 

Anabledd

O’r rhai a atebodd y cwestiwn hwn, nododd 66.4 y cant nad oedd ganddynt gyflwr neu anabledd iechyd corfforol neu feddyliol hirsefydlog. Dewisodd 8.1 y cant beidio ag ateb y cwestiwn hwn.

O'r 25.6 y cant o ymatebwyr ag anableddau, dewisodd 50.4 y cant  'Corfforol ' a dewisodd 44.4 y cant 'Iechyd meddwl'. Nododd 35.9 y cant fod ganddynt gyflwr meddygol (e.e. canser, MS). Dewisodd 9.4 y cant o’r ymatebwyr 'Nam ar y synhwyrau', gyda 0.9 y cant yn nodi 'Anabledd dysgu'. Roedd yn well gan 2.6 y cant beidio â dweud.